Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

12 Tachwedd 2018

SL(5)268 – Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £57,500 i £59,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,750 i £5,900.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, o £5,750 i £5,900.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 3 Rhagfyr 2018 neu ar ôl hynny.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Iawndal Tir 1973

Fe’u gwnaed ar: 24 Hydref 2018

Fe’u gosodwyd ar: 25 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 03 Rhagfyr 2018